Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau o Gaernarfon, sy’n arbenigo mewn creu gwefannau proffesiynol, effeithiol a llwyddiannus am brisiau fforddiadwy a chystadleuol. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau er mwyn cyflawni anghenion busnes ein cleientiaid, a gwneud yn siŵr bod eu gwefan yn weladwy ar draws yr ystod amrywiol o ddyfeisiadau sydd ar gael yn awr ar y farchnad.
"O'r cychwyn cyntaf mae'r gwasanaeth wedi bod yn ardderchog. Dim byd yn ormod o drafferth, a staff yn dod nol atom yn syth, gwaith yn cael ei gwblhau yn sydyn, a safon y deunydd yn arbennig iawn."
"Mae ein profiad gyda Delwedd wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae Ceri wedi ein helpu i adeiladu gwefan hygyrch, trawiadol a hawdd ei ddefnyddio, ac mae tîm Delwedd i gyd yn ymatebol iawn pan fydd angen unrhyw help arnom ni."
"Gwasanaeth o safon! Roedd y tîm yn greadigol, yn gyfeillgar, ac yn effeithlon iawn. Mae ein gwefan yn edrych yn wych! Argymhellaf yn fawr!"
"Diolch Delwedd am wasanaeth 5 seren. Rydym wrth ein boddau gyda'r wefan newydd yma yn Ysgol Gynradd Nefyn!"
"Oh wow!!! Rhaid i mi gymryd eiliad i fynegi fy niolchgarwch dwys a chanmoliaeth i chi a’ch tîm am y wefan rhyfeddol rydych chi wedi’i chreu ar ein cyfer. Mae’n anhygoel gweld. Mae eich sylw i fanylion a'ch gallu i ddeall ein hanghenion unigryw yn arbennig."
"Mae gwasanaeth a gofal cwsmer Delwedd wedi bod yn wych drwy gydol y broses i ni ddylunio ein gwefan newydd.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Tîm am eu gwaith arbennig yn cefnogi Menter Cymunedol Bethel a byddwn yn argymell unrhyw un i ddefnyddio Delwedd os yn chwilio am waith o safon!"
Pwy Ydym Ni