Adeiladu a Gosod i Fyny Fersiwn Gymraeg Eich Gwefan am Ddim Cost Ychwanegol

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi rhoi'r gorau i ddarparu "Grant Hyrwyddo", oedd yn cynnwys darparu 50% o'r costau hyd at uchafswm o £1,000 yn y sectorau preifat a gwirfoddol.

Mewn canlyniad mae Delwedd wedi penderfynu noddi unrhyw sefydliad sydd angen gwefan dwyieithog drwy ychwanegu ochr Gymraeg i'w gwefan yn rhad ac am ddim.

Meddai Michael Roberts o gwmni Delwedd: "Rydym wedi creu gwefannau dwyieithog ar gyfer nifer o'n cleientiaid gyda'r grant. Heb y grant, mae'n anochel y bydd amryw o'n cleientiaid, fyddai wedi ceisio am y grant yn 2009, yn dewis gwefannau uniaith Saesneg. Felly, rydym ni fel cwmni, wedi penderfynu hyrwyddo'r iaith Gymraeg ein hunain, trwy ychwanegu gwefan Gymraeg at unrhyw wefan yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn arbed rhwng £200 a £500 i'n cleientiaid, sef cost gyfartalog y grant oedd gynt ar gael gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. "

Bydd Delwedd yn sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â chanllawiau a safonau Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Rydym yn llongyfarch Delwedd ar gynnig y gwasanaeth hwn, ac yn sicr y bydd yn cael ei groesawu’n fawr gan eu cwsmeriaid.”

"Mae ymchwil yn profi bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi derbyn gwasanaethau Cymraeg neu ddwyieithog, ac yn fwy tebygol o ymddiried yn y gwasanaethau hynny. Mae gwefannau yn ffenestr siop wych ar gyfer busnesau a sefydliadau, ac wrth i bobl fagu'r hyder i ddefnyddio technoleg Cymraeg, mae yna alw cynyddol am wefannau dwyieithog."

Nodwch os gwelwch yn dda tra bydd Delwedd yn adeiladu'r ochr Gymraeg o'r wefan yn rhad ac am ddim, cyfrifoldeb y cleient yw darparu'r geiriau yn y Gymraeg.

Er hynny, gallwn gynnig gwasanaeth cyfieithu am brisiau cystadleuol os oes angen hyn.

Os yr hoffech gael mwy o wybodaeth am y pwnc yma, cysylltwch â ni.

I weld mwy o'n cynigion, cliciwch yma.