"Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Delwedd er mwyn lansio fy ngwefan newydd sbon yn ddiweddar. Roedd y gwasanaeth yn broffesiynol a’r cyfathrebu’n gyson. Mae’r gwasanaeth iaith Gymraeg yn benodol yn wych. Diolch i’r holl aelodau staff am eu cymorth a’u cyngor."
"Wedi cael gwasanaeth o safon uchel, yn brydlon gyda chyfathrebu clir."
"Oh wow!!! Rhaid i mi gymryd eiliad i fynegi fy niolchgarwch dwys a chanmoliaeth i chi a’ch tîm am y wefan rhyfeddol rydych chi wedi’i chreu ar ein cyfer. Mae’n anhygoel gweld.
Mae eich sylw i fanylion a'ch gallu i ddeall ein hanghenion unigryw yn arbennig."
"Diolch Delwedd am wasanaeth 5 seren. Rydym wrth ein boddau gyda'r wefan newydd yma yn Ysgol Gynradd Nefyn!"
Dwi wedi gwirioni gyda'r Wefan diolch yn fawr iawn i chi gyd.
“Roedd y broses o greu gwefan gyda cwmni Delwedd yn bleser. Roedd eu harbennigedd a'u hymrwymiad i wireddu ein gwefan delfrydol yn arbennig. Rydym yn falch iawn o'r gwefan gorffenedig, mae'n glir, dwyieithog ac yn ei gwneud hi'n hawdd i ni gydymffurfio efo'r holl ofynion cyfreithiol sydd ar Gynghorau Tref a Chymuned i gyhoeddi dogfennau a sicrhau trylowyder y broses ddemocrataidd.”
Ysgrifennaf atoch ar ran Côr Meibion Caernarfon i gyfleu ein gwerthfawrogiad am y gwaith sylweddol rydych wedi ymgymryd ag dros y misoedd diwethaf.
Diolch o galon i chi gyd am eich gwaith bendigedig!