Termau Defnyddio

Darllenwch y Telerau a'r Amodau Hyn yn Ofalus cyn Defnyddio'r Wefan Hon

Telerau Defnyddio'r Wefan

Mae'r telerau defnyddio hyn (ynghyd â'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo) ("Telerau") yn amlinellu’r telerau defnyddio ar gyfer defnyddio’r wefan www.delwedd.co.uk (y "Wefan"), boed hynny fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig. Mae defnyddio'r Wefan yn cynnwys mynediad at y Wefan, pori’r Wefan, neu gofrestru i ddefnyddio'r Wefan.

Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio'r Wefan. Rydym ni’n argymell eich bod yn argraffu copi o'r Telerau hyn er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Drwy gael mynediad at neu ddefnyddio'r Wefan neu nodi eich caniatâd, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn.

Os nad ydych chi'n cytuno â'r Telerau neu os nad ydych chi’n derbyn unrhyw un o'r Telerau, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r Wefan.

Telerau Eraill sy'n Berthnasol

Mae'r Telerau hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i'ch defnydd o'r Wefan:

Gwybodaeth Amdanom Ni

Mae www.delwedd.co.uk yn Wefan a weithredir gan Delwedd Cyf. ("Ni/Rydym"). Rydym ni wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 10339803 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Galeri 16, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Galeri 16, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ. Ein rhif TAW yw 250327534.

Rydym ni’n gwmni cyfyngedig.

Newidiadau i'r Telerau Hyn

Mae’r Telerau hyn wedi’u dyddio 29/05/2018. Ni fydd unrhyw newidiadau i'r Telerau hyn yn ddilys nac yn cael unrhyw effaith oni bai ein bod ni wedi cytuno iddynt yn ysgrifenedig. Rydym ni’n cadw'r hawl i amrywio'r Telerau hyn o bryd i'w gilydd. Bydd ein telerau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y Wefan a thrwy barhau i ddefnyddio a chael mynediad i'r Wefan yn dilyn y newidiadau hyn, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan unrhyw amrywiad a wneir gennym ni. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r Telerau hyn o dro i dro i wirio amrywiadau o'r fath.

Newidiadau i'r Wefan

Efallai y byddwn ni’n diweddaru'r Wefan o dro i dro, a gallwn ni newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, noder y gall unrhyw ran o'r cynnwys ar y Wefan fod wedi dyddio ar unrhyw adeg benodol, ac nid ydym o dan unrhyw rwymedigaeth i'w diweddaru.

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein Gwefan, neu unrhyw gynnwys arni, yn rhydd o wallau neu hepgoriadau.

Mynediad i'r Wefan

Mae'r Wefan ar gael yn rhad ac am ddim.

Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan, nac unrhyw gynnwys arni, ar gael bob amser neu yn ddi-dor. Caniateir mynediad i'r Wefan ar sail dros dro. Gallwn atal, diddymu neu newid unrhyw ran o’r Wefan, neu’r Wefan gyfan, heb rybudd ar unrhyw adeg fel sy’n briodol i ni.

Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y Wefan yn gywir, yn gyfredol ac yn rhydd rhag bygiau, ni allwn addo hynny. At hynny, ni allwn addo y bydd y Wefan yn addas at unrhyw ddiben.

Mae eich defnydd o unrhyw gynnwys ar y Wefan yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy'r Wefan yn bodloni eich gofynion penodol.

Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y Wefan ar gael i chi ei defnyddio, nid ydym yn addo bod y Wefan ar gael bob amser nac ychwaith yn addo eich bod yn gallu defnyddio’r Wefan yn ddi-dor. Rydych chi'n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i chi allu cael mynediad i'r Wefan.

Rydych chi hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl bobl sy'n defnyddio'r Wefan trwy'ch cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r telerau defnyddio hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a'u bod yn cydymffurfio â nhw.

Mae'r Wefan wedi'i chyfeirio at bobl sy'n byw yn y Deyrnas Unedig. Nid ydym yn cynrychioli bod cynnwys sydd ar gael ar neu drwy ein Gwefan yn briodol neu ar gael mewn lleoliadau eraill. Efallai y byddwn ni’n cyfyngu ar argaeledd y Wefan neu unrhyw wasanaeth neu gynnyrch a ddisgrifir ar y Wefan i unrhyw berson neu ardal ddaearyddol ar unrhyw adeg. Os ydych chi'n dewis defnyddio'r Wefan o du allan i'r Deyrnas Unedig, rydych chi’n gwneud hynny ar eich menter eich hun.


Eich Cyfrif a’ch Cyfrinair

Os ydych chi'n dewis, neu’n cael, cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o'n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin gwybodaeth o'r fath yn gyfrinachol. Ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym ni’r hawl i analluogi unrhyw god adnabod neu gyfrinair defnyddiwr, p'un a gafodd ei ddewis gennych chi neu ei ddyrannu gennym ni ar unrhyw adeg, os yn ein barn resymol eich bod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Telerau hyn.

Os ydych chi'n gwybod neu'n amau bod unrhyw un heblaw amdanoch chi'n gwybod eich cod adnabod neu gyfrinair, rhaid i chi roi gwybod i ni yn syth drwy post@delwedd.co.uk.

Hawliau Eiddo Deallusol

Ni yw perchennog neu ddaliwr trwydded yr holl hawliau eiddo deallusol ar y Wefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Caiff y gwaith hwnnw ei ddiogelu gan gyfreithiau a chytundebau hawlfraint ledled y byd. Mae pob hawl o'r fath wedi’i neilltuo.

Gallwch argraffu un copi, a lawrlwytho dyfyniadau, o unrhyw un o dudalennau’r Wefan at eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw pobl eraill o fewn eich sefydliad at gynnwys sydd wedi'i gyhoeddi ar y Wefan.

Ni ddylech addasu'r papur neu gopïau digidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi'u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain neu unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.

Rhaid cydnabod ein statws (ac unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron cynnwys ar ein Gwefan bob amser.

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o'r cynnwys ar y Wefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Os byddwch chi’n argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o'r Wefan yn groes i'r Telerau hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan yn dod i ben yn syth a rhaid i chi, ar ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych chi wedi’u cynhyrchu.

Dim Dibynnu ar Wybodaeth

Mae’r cynnwys ar ein Gwefan wedi’i ddarparu at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig ac i roi gwybod i chi amdanom ni a’n cynhyrchion a newyddion, erthyglau, gwasanaethau a gwefannau eraill a allai fod o ddiddordeb. Nid yw’n cynnwys cyngor technegol, ariannol na chyfreithiol neu unrhyw gyngor arall ac ni ddylid dibynnu arno at ddibenion o’r fath.

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech resymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y Wefan, nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychiolaethau, awdurdodiadau neu warantau, boed drwy fynegi neu awgrymu, bod y cynnwys ar y Wefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.


Cyfyngu Ein Rhwymedigaeth

Nid oes dim yn y Telerau hyn yn eithrio neu'n cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod, neu ein twyll neu gamliwio twyllodrus, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith Lloegr.

I'r graddau y caniateir yn ôl y gyfraith, rydym yn gwahardd yr holl amodau, awdurdodiadau, cynrychiolaethau neu dermau eraill a all fod yn berthnasol i'n Gwefan neu unrhyw gynnwys arni, boed yn cael ei fynegi neu ei awgrymu.

Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os yw'n rhagweladwy, sy'n codi o dan neu mewn cysylltiad â:

Os ydych chi’n ddefnyddiwr busnes, cofiwch nodi’n benodol na fyddwn ni’n atebol am:

Os ydych chi'n ddefnyddiwr arferol, nodwch ein bod yn darparu'r Wefan at ddefnydd domestig a phreifat yn unig. Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio'r Wefan at ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid ydym ni’n atebol i chi mewn unrhyw ffordd am unrhyw golled o ran elw, busnes, amharu ar fusnes, neu golli cyfle busnes.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan feirws, ymosodiad atal gwasanaeth sydd wedi’i ddosbarthu, neu ddeunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio'ch offer cyfrifiadurol, eich rhaglenni cyfrifiadurol, eich data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o'r Wefan neu gan eich bod wedi lawrlwytho unrhyw gynnwys arno, neu ar unrhyw wefan sy'n gysylltiedig â hi.

Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau sy'n cysylltu o'n gwefan ni. Ni ddylid dehongli dolenni o'r fath fel ardystiad gennym ni o'r gwefannau cysylltiedig hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all godi o'ch defnydd ohonynt.

Feirysau

Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan yn ddiogel neu'n rhydd rhag bygiau neu feirysau.

Rydych chi'n gyfrifol am ffurfweddu'ch technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan er mwyn cael mynediad i'r Wefan. Dylech ddefnyddio'ch meddalwedd diogelu rhag feirws eich hunain.

Ni ddylech gamddefnyddio'r Wefan trwy gyflwyno feirysau, ymwelwyr diwahoddiad (trojans), mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnegol. Ni ddylech geisio cael mynediad anawdurdodedig i'r Wefan, y gweinydd y caiff y Wefan ei storio arno neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'r Wefan. Ni ddylech ymosod ar y Wefan trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth sydd wedi’i ddosbarthu. Trwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw achosion o'r fath i'r awdurdodau gorfodi cyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny trwy ddatgelu'ch hunaniaeth iddynt. Mewn achos o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan yn dod i ben ar unwaith.

Cysylltu â’r Wefan

Gallwch gysylltu â'n hafan, cyn belled â'ch bod chi'n gwneud hynny mewn modd sy'n deg ac yn gyfreithiol ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Ni ddylech sefydlu dolen mewn modd sy'n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu arnodiad ar ein rhan lle nad oes unrhyw un yn bodoli.

Peidiwch â sefydlu dolen i'r Wefan ar unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.

Ni ddylid fframio'r Wefan ar unrhyw Wefan arall, ac ni allwch greu dolen i unrhyw ran o'r Wefan heblaw'r hafan.

Rydym ni’n cadw'r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.

Os hoffech wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ar y Wefan ac eithrio’r hyn a nodir uchod, cysylltwch â post@delwedd.co.uk.

 

Cysylltiadau Trydydd Parti ac Adnoddau ar y Wefan

Lle mae'r Wefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig.

Nid oes gennym ni reolaeth dros wefannau trydydd parti ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw gynnwys, deunydd neu wybodaeth sydd arnynt. Nid yw arddangos unrhyw hyperddolen a chyfeiriad at unrhyw wefan trydydd parti yn golygu ein bod yn cymeradwyo gwefan, cynhyrchion neu wasanaethau’r trydydd parti hwnnw. Gall eich defnydd o wefan trydydd parti gael ei lywodraethu gan delerau ac amodau'r Wefan trydydd parti hwnnw.

Digwyddiadau y Tu Hwnt i’n Rheolaeth

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw achos o fynd yn groes i’r Telerau hyn a achosir gan ddigwyddiad neu amgylchiad tu hwnt i’n rheolaeth resymol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, streicio, cloi drysau (lockouts)neu anghydfodau diwydiannol eraill, systemau neu fynediad at rwydweithiau yn torri lawr; neu lifogydd, tân, ffrwydriad neu ddamwain.


Hawliau Trydydd Partïon

Nid oes gan unrhyw un ar wahân i barti i’r Telerau hyn unrhyw hawl i orfodi unrhyw un o’r Telerau hyn.


Anghydfodau

Byddwn ni’n ceisio datrys unrhyw anghydfodau â chi yn gyflym ac yn effeithlon.

Os ydych chi’n anhapus â ni, cofiwch gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n dymuno dwyn achos llys, llysoedd perthnasol y Deyrnas Unedig yn unig a fydd ag awdurdod mewn perthynas â’r Telerau hyn.

Bydd cyfraith berthnasol y Deyrnas Unedig yn gymwys i’r Telerau hyn.

 

Cysylltu â ni

I gysylltu â ni, e-bostiwch post@delwedd.co.uk.

Diolch am ymweld â’r Wefan.