Newyddion

picture

Delwedd ar Facebook

 

Delwedd ar Twitter

 

Newyddion Diweddaraf

picture








Am y cynigion diweddaraf - cliciwch yma

01:02:12 Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chwe Ysgol Gynradd a dwy Ysgol Uwchradd sy'n dod a'n portffolio o wefannau ysgolion i dri ar hugain. A fuasai eich ysgol chi yn elwa o gael gwefan newydd? Cysylltwch am sgwrs


Newyddion BBC "Google tells Welsh firms they are losing business without web presence" - mwy o wybodaeth

 

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'n holl gwsmeriaid a ffrindiau!

Diolch yn fawr iawn am eich cwsmeriaeth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn oddi wrth bawb yn Delwedd.

Er gwybodaeth dyma oriau agor Delwedd ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd:
Byddwn yn cau am 12:00 Dydd Gwener, 23/12/11 ~ Swyddfa ar gau tan Ddydd Mawrth 03/01/2012

Er bydd y swyddfa wedi cau, bydd cefnogaeth brys ar gael (24*7*365) drwy anfon e-bost i post@delwedd.co.uk


Mae gwefan newydd Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon yn derbyn 20,000 o hits bob mis. Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl yn y Caernarfon and Denbigh Tachwedd 24, 2011


Mae gwefan pentref Y Felinheli (www.felinheli.org) yn mynd o nerth i nerth! Cliciwch yma i weld yr erthygl yn y Caernarfon and Denbigh Awst 18 2011


Mae'r cyfanswm i mewn! Casglodd Ras Gyfnewid Am Fywyd Gwynedd & Môn y swm anhygoel o £32,829.06 i Cancer Research UK, gyda thîm Delwedd yn hel £2,585.43!

Diolch o galon i'n holl gwsmeriaid a ffrindiau a gyfrannodd - gyda'r swm a godwyd, rydych wir wedi gwneud gwahaniaeth!


Llongyfarchiadau i un o'n gwsmeriaid, Tarian Cyf, ar ennill gwobr Cymdeithas yr Iaith am gynnig gwasanaeth Cymraeg arbennig i'r cyhoedd.

Cliciwch yma i lawr lwytho'r erthygl fel pdf.


Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cymryd rhan yn Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd a Môn Cancer Research UK eto blwyddyn yma! Gyda'ch cymorth fe lwyddon i hel £2,006.44 blwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn gobeithio gwneud cystal blwyddyn yma! Cliciwch y linc isod i ein noddi - bydd unrhyw swm yn gwneud gwahaniaeth mawr!

http://www.donatetomyrelay.org/delwedd

Delwedd mewn erthygl nodwedd yn nhaflen newyddion Menter Iaith: cliciwch yma



Llongyfarchiadau i un o'n cwsmeriaid, Sw Môr Môn, ar gael ei gynnwys mewn erthygl yn y Daily Post ar Awst 17eg, 2010.

Dot.Cymru gan Paul Scott

“But while You Tube, Facebook, Wikipedia and itunes are recognised around the world, there are multitudes of smaller websites that offer a more local perspective on everything from business to sport and leisure.

Here we’ve trawled the legions of sites to pick out some of the best on the web with a North Wales slant”

www.angleseyseazoo.co.uk (Listed in the 14 featured)

“Anglesey Sea Zoo’s site boasts many pictures and videos of its weird and wonderful creatures. The website carries ticket information and other visitor details. There are games kids and teachers can even download educational tools.”


Gwobrau Busness Gwynedd 2009

DELWEDD YN NODDI GWEFAN NEWYDD I RAS GYFNEWID AM FYWYD GWYNEDD A MÔN (CANCER RESEARCH UK)

Bob blwyddyn mae Delwedd yn dylunio a chreu gwefan yn rhad ac am ddim i achos da yn lleol. Eleni rydym wedi dewis noddi Ras Gyfnewid Am Fywyd Gwynedd a Môn (Cancer Research UK) yn y ffordd yma. Ewch i gael golwg ar y wefan - buasai'n wych petaech yn gallu helpu'r ymgyrch. Dewis arall yw cyfrannu drwy glicio yma neu wrth ddefnyddio'r widget justgiving ar y chwith i helpu Tîm Delwedd i gyrraedd eu targed!

I weld y digwyddiad hwn yn y wasg, cliciwch yma.

Gwynedd Business Awards 2009

DELWEDD AR RHESTR FER GWOBRAU BUSNES GWYNEDD

Delwedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Busnes Gwynedd 2009. ...mwy


01.03.09 ~ Gwefannau Cymraeg yn rhad ac am ddim!

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Rydym yn llongyfarch Delwedd ar gynnig y gwasanaeth hwn, ac yn sicr y bydd yn cael ei groesawu’n fawr gan eu cwsmeriaid.”

"Mae ymchwil yn profi bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi derbyn gwasanaethau Cymraeg neu ddwyieithog, ac yn fwy tebygol o ymddiried yn y gwasanaethau hynny. Mae gwefannau yn ffenestr siop wych ar gyfer busnesau a sefydliadau, ac wrth i bobl fagu'r hyder i ddefnyddio technoleg Cymraeg, mae yna alw cynyddol am wefannau dwyieithog."

... mwy


19.01.09 ~ "Sales figures highlight growth of the UK's online retail sector" - Business Strata - mwy


11:01:09 ~ "Businesses should embrace the web as the high street feels the pinch" - Andrew Stone, Sunday Times

Mwy - cliciwch yma