10.05.17 Cystadleuaeth Gwefan am Ddim

Gwefan Yn Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol

Fel mae nifer ohonoch yn ymwybodol, mae Delwedd yn falch iawn o allu cefnogi achosion da lleol drwy ddylunio, adeiladu a chynnal un wefan yn rhad ac am ddim ar gyfer achos da lleol bob blwyddyn. Blwyddyn diwethaf fe ddewisom Gafael Llaw, ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi creu, lletya a chynnal nifer o wefannau eraill am ddim i achosion da lleol. Mae ein cefnogaeth yn barhaus ar gyfer y gwefannau hyn ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y gwaith da y maent yn ei wneud.

Eleni rydym yn rhedeg cystadleuaeth i ddewis yr achos da bydd yn derbyn y wefan newydd yma gennym ni.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth oedd Dydd Gwener, y 30ain o Fehefin, 2017.