27.10.17 Adeiladu Economi Leol Newydd yng Nghymru

Jemma

Yn ddiweddar, gwahoddwyd Aled a Ceri o Delwedd i siarad yng nghynhadledd yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yng Nghaerdydd, "Adeiladu Economi Lleol Newydd Yng Nghymru". Roeddem yno i drafod rôl busnesau bach a chanolig yn yr economi lleol.

Yn ein gweithdy fe drafodwyd sut allai busnesau lleol yn cefnogi ei gilydd gryfhau'r economi lleol, a sut allai busnesau lleol arwain at economi lleol cryfach. Fe drafodwyd hefyd sut mae bod yn fusnes lleol ddim o reidrwydd yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi. Mae hyn yn arbennig o wir os oes gennych bresenoldeb cryf ar-lein, sef yr hyn yr ydym yn anelu at helpu ein cwsmeriaid i gyflawni.

Diolch i'r FSB am y gwahoddiad, derbyniom adborth da o'r digwyddiad a gobeithio y gwnaeth y rhai oedd yn bresennol fwynhau a'i weld yn addysgiadol.

Darganfyddwch sut y gallwn helpu eich busnes chi drwy glicio yma, neu cysylltwch â ni.

(Diolch i BCT Wales am y llun)