23.12.16 Gwefan Yn Rhad Ac Am Ddim Ar Gyfer Achos Da Lleol

Bob blwyddyn rydym yn dylunio, adeiladu a chynnal o leiaf un wefan yn rhad ac am ddim ar gyfer achos da lleol; eleni rydym wedi dewis Gafael Llaw.

Mae Gafael Llaw yn elusen leol o Gaernarfon wedi ei sefydlu i gefnogi plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn gyda chancr.

Rydym wedi creu gwefan ymatebol, ddwyieithog gyda system rheoli cynnwys sydd yn adlewyrchu eu brand, ac rydym yn gobeithio bydd yn gymorth iddynt rannu gwybodaeth, denu gwirfoddolwyr a chodi arian i’w hachos teilwng iawn.

Mae Delwedd yn edmygu yn fawr gwaith da Gafael Llaw yn codi arian i gefnogi plant gyda chanser a’u teuluoedd. Mae Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey ac elusen Clic Sargent mor bwysig i’r teuluoedd yma ac mae Gafael Llaw yn gwario’r arian sy’n cael ei gasglu yn ddoeth er mwyn ceisio gwella pethau iddynt.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, cadeirydd elusen Gafael Llaw: “Rydym yn hynod ddiolchgar i gwmni Delwedd am y gwaith a’r gwasanaeth proffesiynol mae nhw wedi ei gynnig i ni yn rhad ac am ddim. Gwirfoddolwyr ydi pawb sy’n gwneud gwaith i’r elusen, sy’n sicrhau bod pob ceiniog yn mynd yn syth at yr achos, felly mae derbyn cefnogaeth fel hyn gan gwmni fel Delwedd yn werthfawr iawn i ni.

“Ers sefydlu’r elusen rydym wedi mynd o nerth i nerth, ac o ganlyniad i gefnogaeth anhygoel a gwaith caled ein gwirfoddolwyr rydym wedi casglu £150,000 dros dair blynedd i wella’r driniaeth a’r adnoddau sydd ar gael i blant a phobl ifanc Gwynedd a Môn gyda chancr. Mae’r wefan newydd yn mynd i fod yn adnodd gwych i ni i’r dyfodol.”

I weld y wefan newydd ewch i www.gafael-llaw.co.uk.

Y llynedd fe wnaeth Delwedd greu gwefan yn rhad ac am ddim i Cylch Meithrin Y Felinheli, ac yn y blynyddoedd blaenorol rydym wedi creu, lletya a chynnal nifer o wefannau eraill sy'n cynnwys Ysgol Pendalar, Gŵyl Bethel a Ras Cyfnewid am Fywyd Gwynedd a Môn. Mae ein cefnogaeth yn barhaus ar gyfer y gwefannau hyn ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y gwaith da y maent yn ei wneud.

Cliciwch yma i ddychwelyd at ein prif dudalen newyddion.