Cynigion
Manylion Cyswllt
Delwedd
Gweld Delwedd mewn map mwy
DELWEDD
Galeri 7
Galeri Caernarfon
Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
[t] 01286 685 227
[f] 08701 673298
[e] cliciwch yma
Cynigion Arbennig
Cliciwch ar y cynigion isod am fwy o fanylion:
![]() |
Gallwn gofio sut mae hynny yn teimlo - ac rydym yn gwybod fod pob tamaid o gymorth yn hanfodol.
Mae gennym ddisgownt hael i fentrau newydd, a gallwn roi tudalen dros dro tra'r ydych yn casglu gwybodaeth, gwneud cais am grant a.y.b.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.
![]() |
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi rhoi'r gorau i ddarparu "Grant Hyrwyddo", oedd yn cynnwys darparu 50% o'r costau hyd at uchafswm o £1,000 yn y sectorau preifat a gwirfoddol.
O Fawrth 1af mae cwmni gwe-ddylunio Delwedd, o'u swyddfa yn y Galeri, Caernarfon, wedi penderfynu noddi unrhyw sefydliad sy'n dymuno cael/sydd angen gwefan ddwyieithog, trwy ychwanegu gwefan Gymraeg ei hiaith yn rhad ac am ddim.
Meddai Michael Roberts o gwmni Delwedd: "Rydym wedi creu gwefannau
dwyieithog ar gyfer nifer o'n cleientiaid gyda'r grant. Heb y grant, mae'n anochel y
bydd amryw o'n cleientiaid, fyddai wedi ceisio am y grant yn 2009, yn dewis
gwefannau uniaith Saesneg. Felly, rydym ni fel cwmni, wedi penderfynu hyrwyddo'r
iaith Gymraeg ein hunain, trwy ychwanegu gwefan Gymraeg at unrhyw wefan yn
rhad ac am ddim. Mae hyn yn arbed rhwng £200 a £500 i'n cleientiaid, sef cost
gyfartalog y grant oedd gynt ar gael gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ystod 10
mlynedd diwethaf, mae Delwedd wedi noddi sawl 'elusen ac achos da' lleol, trwy
ddarparu gwefannau am ddim. Eleni, rydym wedi penderfynu cyfeirio ein nawdd at
hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Rydym eisoes wedi cychwyn ar ddwy wefan i gwmnïau
sy'n elwa o'r cynnig hwn."
Bydd Delwedd yn sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â chanllawiau a safonau Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Nodwch os gwelwch yn dda tra bydd Delwedd yn adeiladu yr ochr Gymraeg o'r wefan yn rhad ac am ddim, cyfrifoldeb y cleient yw darparu'r geiriau yn y Gymraeg. Gallwn roi enwau cyfieithwyr sy'n cynnig prisiau cystadleuol i chi.
Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Rydym yn llongyfarch Delwedd ar gynnig y gwasanaeth hwn, ac yn sicr y bydd yn cael ei groesawu’n fawr gan eu cwsmeriaid.”
"Mae ymchwil yn profi bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi derbyn gwasanaethau Cymraeg neu ddwyieithog, ac yn fwy tebygol o ymddiried yn y gwasanaethau hynny. Mae gwefannau yn ffenestr siop wych ar gyfer busnesau a sefydliadau, ac wrth i bobl fagu'r hyder i ddefnyddio technoleg Cymraeg, mae yna alw cynyddol am wefannau dwyieithog."
Os yr hoffech gael mwy o wybodaeth am y pwnc yma, neu i drefnu cyfarfod gyda Michael Roberts, cysylltwch â ni.
![]() |
Mae Delwedd yn brofiadol wrth ddylunio gwefannau i Werthwyr Tai ac rydym yn falch o'n llwyddiant yn y maes yma.
Mae rhai o'n Gwerthwyr Tai yn rheolaidd yn cael dros filiwn o 'hits' bob mis - gyda'r record yn sefyll ar dros 5,000,000 o 'hits' mewn un mis!
Gall ein cleientiaid ychwanegu eiddo, newid manylion a lluniau eu hunain. Yn eu tro gall eu cwsmeriaid hwythau chwilio am eiddo addas mewn ardal o'u dewis.
Os gwelwch yn dda cymerwch olwg ar rai gwefannau Gwerthwyr Tai diweddar:-
Cysylltwch â ni i weld sut y gall eich cwmni elwa o wefan newydd gan Delwedd
![]() |
Mae Stay-Wales yn hyrwyddo llefydd gwyliau braf ac amrywiol ar hyd arfordir ac yng nghanol mynyddoedd a chefn gwlad Cymru.
Drwy wefan Stay-Wales gall berchnogion yr eiddo ddelio yn uniongyrchol gyda'u hymwelwyr heb orfod talu comisiwn.
Mae holl wefannau ar gyfer ymwelwyr a ddylunnir gan Delwedd yn cael hysbysebu ar Stay-Wales YN RHAD AC AM DDIM!
Os yr hoffech wybod mwy am sut y gall Delwedd eich cynorthwyo i facsimeiddio eich bwciadau gyda gwefan ddeniadol a chroesawgar yna cysylltwch â ni.
Gwaith Diweddar 01.05.12
Newyddion Diweddaraf
- 01:05:12 Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda tair Ysgol Gynradd a tair Ysgol Uwchradd sy'n dod a'n portffolio o wefannau ysgolion i pedair ar hugain. A fuasai eich ysgol chi yn elwa o gael gwefan newydd? Cysylltwch am sgwrs
- 27.01.12 - Newyddion BBC - "Google tells Welsh firms they are losing business without web presence" - mwy o wybodaeth
Linciau Cyflym
Cyswllt
[t] 01286 685 227
[f] 08701 673 298
[e] cliciwch yma
[m] map
Cyfeiriad: DELWEDD,
Galeri 7,
Galeri Caernarfon,
Doc Victoria
Caernarfon,
Gwynedd LL55 1SQ.




